Hanes Byr

 

Mae Blaenau Ffestiniog yn dref gymharol newydd, tref a grëwyd wedi darganfod gwythïen lechi werthfawr yn yr ardal yn y 18fed Ganrif. Ond aiff plwyf Ffestiniog yn ôl tipyn o ganrifoedd. Ceir nifer o olion hynafol o amgylch yr ardal, gyda safleoedd yn dyddio’n ôl i’r Oes Efydd a’r Oes Haearn, a cheir tystiolaeth hefyd o gyfnod y Rhufeiniaid yn y gymdogaeth.  

Tuag at Gwm Cynfal, mae rhai o’r enwau llefydd yn ein hatgoffa o’r straeon hudolus a nodwyd yn chwedlau byd-enwog ‘Y Mabinogi’, lle mae rhai o’r chwedlau wedi’u lleoli. Wrth ddilyn rhai o’r llwybrau lleol, cawn gyrraedd nifer o gymoedd amlwg - Cwmorthin, Cwm Bowydd, Cwm Cynfal, Cwm Teigl - pob un â’u nodweddion hanesyddol unigryw a golygfeydd anhygoel.

Mae Sarn Helen yn ffordd Rufeinig nodedig, sy’n cwmpasu sawl milltir yn y cyffiniau, ac yn ein hatgoffa o gyrhaeddiad y llengoedd Rhufeinig i Domen-y-mur, gwersyll Rhufeinig, o’r 2il neu’r 3edd Ganrif OC. Ceir tystiolaeth ymhob man o amgylch y dref o ddynion yn ceisio ennill bywoliaeth o’r graig lechi, ac mae’r gwastraff llechi yn atgof o ddiwydiant ffyniannus yn yr ardal. Yn ôl traddodiad, yn y 1760au, breuddwydiodd Methusala Jones o Arfon, am leoliad lle holltai slabiau o graig yn berffaith, a mentrodd i ddechrau busnes bach mewn lle a adnabuwyd yn ddiweddarach fel Chwarel Diffwys, yma yn y dref hon. Yn fuan iawn, datblygodd sawl chwarel arall yn ychwanegol i’r Diffwys. Tyfodd un o’r rheiny, yr Oakeley, i fod y gweithfeydd llechi tanddaearol mwyaf yn y byd, a chanddo, yn anghredadwy, oddeutu 50 milltir o drac rheilffordd yn ei amrywiol lefelau tanddaearol o’r mynyddoedd cyfagos. Dyma ddechrau diwydiant ffyniannus a ddatblygodd i fod yn un o ganolfannau llechi mwyaf y byd.  

Tyfodd cymuned boblog mewn rhan ddiarffordd o blwyf Ffestiniog, yn wir, ardal a ddaeth y mwyaf poblog yn sir Feirionnydd, a’r ail fwyaf yng Ngogledd Cymru gyfan erbyn 1901. Ar un adeg, roedd dros 4,000 o ddynion yn gweithio yn y chwareli llechi lleol, a gyfrannodd yn enfawr i’r economi leol. Er mwyn darparu cludiant ar gyfer y cynnyrch llechi, ac er cyfleustra i’r boblogaeth gynyddol, adeiladwyd tair cangen reilffordd i gyrraedd Blaenau Ffestiniog o wahanol gyfeiriadau.  

Yr L.N.W.R. (L.M.S. yn ddiweddarach), y G.W.R. a Rheilffordd Ffestiniog, a adeiladwyd yn 1836. Adeiladwyd gorsaf bŵer hydro Dôl Wen i ddarparu trydan i’r chwareli lleol yn 1899, ac ym mis Mai 1902, Blaenau Ffestiniog oedd y dref gyntaf ym Mhrydain i gael goleuadau stryd wedi’u pweru gan drydan a ddarparwyd gan bŵer dŵr - mae digonedd ohono yn yr ardal.

Yn ddiweddarach yn 1963, agorwyd Gorsaf Bŵer Ffestiniog yn Nhanygrisiau, sef yr orsaf bŵer storio gyntaf ym Mhrydain, a’r fwyaf yn Ewrop ar y pryd.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gwnaed defnydd gwahanol o rai o’r ceudyllau mewn un chwarel lechi yn yr ardal a gwnaed y gweithrediadau hyn mewn cyfrinachedd llwyr. O ganlyniad i’r perygl o fomio dros Lundain, penderfynwyd trosglwyddo holl drysorau celf yr Oriel Genedlaethol, a Phalas Buckingham a llefydd eraill i Chwarel Manod yn 1941. Ymhlith y paentiadau a storiwyd yno dros y cyfnod hwnnw oedd gwaith gan Rubens, Rembrandt a Michelangelo. Roedd sibrydion ar y pryd fod y ‘Crown Jewels’ wedi’u storio yno hefyd. Ond mae honno’n stori arall!